Some information on this website may be out-of-date following the death of Queen Elizabeth.

TYWYSOG CYMRU YN SIARAD Â PHRIF WEINIDOG CYMRU

Published 11 September 2022

Siaradodd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru a Phrif Weinidog Cymru dros y ffôn yn gynharach heddiw.

Diolchodd EUB i'r Prif Weinidog am ei deyrnged raslon i'w Mawrhydi'r Frenhines ar ran pobl Cymru.

Mynegodd EUB cymaint o anrhydedd oedd hi iddo ef a Thywysoges Cymru gael eu gwahodd gan Ei Fawrhydi Y Brenin i wasanaethu pobl Cymru. Byddant yn gwneud hynny gyda gostyngeiddrwydd a pharch mawr.

Cydnabu’r Tywysog ei gariad dwfn ef a’r Tywysoges dros Gymru, ar ôl gwneud eu cartref teuluol cyntaf ym Môn gan gynnwys yn ystod misoedd cynharaf bywyd y Tywysog Siȏr. Bydd y Tywysog a’r Dywysoges yn gwario’r misoedd a blynyddoedd nesaf yn dyfnhau eu perthynas gyda chymunedau ledled Cymru. Maent eisiau chwarae eu rhan i gefnogi dyheadau'r Cymry a dwyn i’r amlwg yr heriau a'r cyfleoedd sydd o'u blaenau. Mae'r Tywysog a'r Dywysoges yn edrych ymlaen at ddathlu hanes a thraddodiadau balch Cymru yn ogystal â dyfodol sy'n llawn addewid. Byddant yn ceisio cynnal y cyfraniadau balch mae aelodau'r teulu Brenhinol wedi'i wneud mewn blynyddoedd cynt.

Mae Eu Huchelderau Brenhinol yn edrych ymlaen at deithio i Gymru yn fuan iawn, ac i gyfarfod ȃ’r Prif Weinidog ac arweinwyr eraill ar y cyfle cyntaf.