Diolch am ymweld â gwefan swyddogol y Teulu Brenhinol. 

 

Croeso

Ers deg canrif, fe fu'r Frenhiniaeth yn rhan ganolog o fywyd y Deyrnas Unedig. Fel Pennaeth y Wladwriaeth, mae'r Frenhines yn cyflawni nifer o ddyletswyddau cyfansoddiadol a seremonïol. Mae'r Frenhiniaeth hefyd yn:
•    helpu i ddiffinio pwy ydyn ni fel cenedl
•    cynnig sefydlogrwydd mewn cyfnodau o newid
•    gwobrwyo rhagoriaeth a chyflawniadau
•    hybu'r ddelfryd o wasanaethu cyhoeddus a gwirfoddol. 

Mae'r wefan yma'n cynnig:
•    gwybodaeth am waith Y Frenhines yn ein cymdeithas ni heddiw
•    bywgraffiadau o rai o aelodau'r Teulu Brenhinol
•    hanes brenhinoedd a breninesau'r oesoedd cynt
•    gwybodaeth gefndirol am y cartrefi a'r casgliadau celf Brenhinol
•    gwybodaeth am ddigwyddiadau ac ymrwymiadau diweddar y Teulu Brenhinol. 

Mae'r tudalennau Cymraeg yma'n cynnig:
•    bywgraffiadau byr o'r Frenhines a Thywysog Cymru
•    trosolwg o rôl Y Frenhines
•    gwybodaeth am y Frenhiniaeth yng Nghymru
•    disgrifiad o Anrhydeddau Tywysogaeth Cymru.

Y Frenhines 

Fe gafodd y Frenhines ei geni yn Llundain ar 21 Ebrill 1926. Hi oedd plentyn cynta' Dug a Duges Efrog, a ddaeth yn Frenin George VI a Brenhines Elizabeth. Fe gafodd ei bedyddio'n Elizabeth Alexandra Mary.
 
Fe gafodd Tywysoges Elizabeth ei haddysgu gartre' gyda Thywysoges Margaret, ei chwaer iau. Ar ôl i'w thad ddod yn frenin yn 1936 a hithau'n etifedd tebygol, fe ddechreuodd astudio hanes a deddfwriaeth gyfansoddiadol. Fe wnaeth hi hefyd astudio celf a cherddoriaeth, dysgu marchogaeth a mwynhau drama a nofio.

Wrth i'r Dywysoges fynd yn hŷn fe ddechreuodd gymryd rhan mewn bywyd cyhoeddus. Fe ddarlledodd am y tro cynta' ym mis Hydref 1940, pan oedd yn 14 oed, gan anfon neges at blant Prydain a'r Gymanwlad. Fe wnaeth Tywysoges Elizabeth ei hymrwymiad cyhoeddus cynta' ym mis Ebrill 1943, gan dreulio diwrnod gyda bataliwn tanciau Gwarchodlu'r Grenadwyr. 

O'r adeg honno, fe gynyddodd ei dyletswyddau swyddogol, yn enwedig gyda phobl ifanc. O fis Mawrth 1944, fe ddechreuodd fynd gyda'r Brenin a'r Frenhines ar nifer o'u teithiau ym Mhrydain.
 
Yn gynnar yn 1945, fe gafodd y Dywysoges ei gwneud yn Is-swyddog yng Ngwasanaeth y Tiriogaethwyr Ategol (yr ATS). Erbyn diwedd y rhyfel, roedd hi wedi cyrraedd safle Is-gadlywydd ar ôl gorffen cwrs yng Nghanolfan Hyfforddi Mecanyddol Rhif 1. Fe ymadawodd â'r ATS fel gyrrwr cymwys.

Ar ôl y rhyfel, tyfu a wnaeth ymrwymiadau cyhoeddus Tywysoges Elizabeth. Fe deithiodd i lawer o achlysuron cyhoeddus ar draws Ynysoedd Prydain. Yn eu mysg nhw oedd mynd i Eisteddfod Genedlaethol Cymru ym mis Awst 1946. 

Fe wnaeth ei hymweliad tramor cynta' yn 1947 pan aeth gyda'i rhieni a'i chwaer ar daith o Dde Affrica. Fe ddathlodd ei phen-blwydd yn 21 oed yn ystod y daith yma, ac fe ymrwymodd ei hun mewn darllediad i wasanaethu'r Gymanwlad.

Yn fuan ar ôl i'r Teulu Brenhinol ddod yn ôl o Dde Affrica, fe ddyweddïodd y Dywysoges â Lefftenant Philip Mountbatten. Roedd priodas y ddau yn Abaty Westminster ar 20 Tachwedd 1947. Fe gafodd Lefftenant Mountbatten ei enwi'n Ei Uchelder Brenhinol Y Tywysog Philip, Dug Caeredin. Roedd yn fab i'r Tywysog Andrew o Roeg ac yn un o or-gor-wyrion Brenhines Victoria.

Yn 1952, bu'n rhaid i Frenin George VI beidio â mynd ar daith i Awstralia a Seland Newydd oherwydd salwch. Fe aeth y Dywysoges yn ei le. Ar 6 Chwefror, bu farw Brenin George VI tra'r oedd Tywysoges Elizabeth yn Cenia, ac fe ddaeth hithau'n Frenhines.

Fe gafodd y Frenhines ei choroni yn Abaty Westminster ar 2 Mehefin 1953. Fe gafodd y seremoni ei darlledu ar y radio a'r teledu ar draws y byd. 

O ddyddiau cynhara' ei theyrnasiad, fe ymrwymodd y Frenhines i'w rôl newydd gydag egni. 

Fe ddechreuodd ei dyletswyddau gwleidyddol a seremonïol yn syth, o Agor y Senedd yn Swyddogol i gynnal cyfweliadau wythnosol gyda'r prif weinidog. Prif weinidog cynta' teyrnasiad y Frenhines oedd Winston Churchill.

O’r dechrau, fe gymerodd y Frenhines ei rôl fel Brenhines y Deyrnas Unedig gyfan o ddifri’. Fe ddechreuodd ar raglen eang o ymweliadau â phob rhan o’r wlad, o Ynysoedd Shetland i Ynysoedd Sili, ac o Eryri i Ynys Metgawdd.

Aeth y Frenhines ar gyfres o ymweliadau â gwledydd tramor hefyd. Ym mlynyddoedd cynta’ ei theyrnasiad, fe aeth y Frenhines i rannau o’r Gymanwlad nad oedd ei rhagflaenwyr erioed wedi ymweld â nhw. Fe gynrychiolodd y Frenhines Brydain ar Ymweliadau Swyddogol â gwledydd fel Rwsia, Tsieina, Japan, Corea, Gwlad yr Iâ ac Unol Daleithiau America.

Yn 1977, fe gafodd Jiwbilî Arian Y Frenhines ei dathlu ym Mhrydain ac ar draws y Gymanwlad. Gyda’r Dug Caeredin, fe deithiodd y Frenhines rhyw 90,000 cilometr er mwyn dathlu’r achlysur gyda’i phobl. Roedd tyrfaoedd enfawr yn eu croesawu nhw ym mhobman.

Roedd y Jiwbilî Aur yn 2002 yn dathlu hanner can mlwyddiant Esgyniad y Frenhines ym 1952. 

Cychwynnodd y flwyddyn â thristwch personol i’r Frenhines. Bu farw ei chwaer, y Dywysoges Margaret, yn 71 mlwydd oed, ar 9 Chwefror 2002, ar ôl dioddef strôc.

Bu farw’r Frenhines Elizabeth Y Fam Frenhines, yn 101 mlwydd oed, ychydig wythnosau yn ddiweddarach, ar 30 Mawrth, yn y Porthdy Brenhinol, Windsor. Aeth Y Frenhines i’w hangladd yn Abaty San Steffan cyn gwasanaeth preifat yng Nghapel San Siôr, Windsor.

Ar waethaf ei phrofedigaethau, fe wnaeth Y Frenhines ddal ati â’i dyletswyddau a chychwynnodd raglen o ddigwyddiadau i ddathlu ei Jiwbilî Aur.

Roedd y dathliadau yn cynnwys ymweliadau â Jamaica, Seland Newydd, Awstralia a Chanada; taith o amgylch y Deyrnas Unedig; ymweld â 70 tref a dinas; a phenwythnos o ddathliadau cenedlaethol, yn cynnwys dau gyngerdd enfawr yng ngerddi Palas Buckingham. 

Yn 2006, dathlodd Y Frenhines ei phen-blwydd yn 80 mlwydd oed trwy gerdded a chwrdd â’r cyhoedd o amgylch canol tref Windsor. Fe wnaeth hi hefyd gynnal cinio i bobl eraill oedd yn dathlu eu pen-blwydd yn 80 yr un diwrnod, a fe wnaeth hi fwynhau cinio gyda’r teulu ym Mhalas Kew. 

Dathlodd Y Frenhines a Dug Caeredin 60ain pen-blwydd eu priodas ar 20 Tachwedd 2007.

Gan rychwantu saith degawd, pedwar o blant, wyth o wyrion ac wyresau, Esgyniad a Choroniad, a theyrnasiad Y Frenhines sydd wedi para dros 650  mlynedd, gwelodd eu priodas lawer o newidiadau dros y blynyddoedd.

Roedd y digwyddiadau i ddathlu’r pen-blwydd priodas cymedrol yn cynnwys Gwasanaeth Dathlu yn Abaty San Steffan, a dadorchuddiwyd panel panormig Jubilee Walkway yn Parliament Square.

Yn 2011, aeth Ei Mawrhydi ar daith hanesyddol i Iwerddon, y cyntaf gan Frenin neu Frenhines Prydain ers i Iwerddon ennill ei hannibyniaeth.

Yn 2012, dathlodd Y Frenhines ei Jiwbilî Diemwnt, wedi 60 mlynedd yn teyrnasu. Dathlwyd y digwyddiad cofiadwy trwy gynnal digwyddiadau ledled y Deyrnas Unedig a’r Gymanwlad, ac uchafbwynt y cyfan oedd penwythnos o ddathliadau ym mis Mehefin.

Yn ystod y flwyddyn, teithiodd Y Frenhines ar hyd a lled y Deyrnas Unedig, a thrwy gymorth aelodau eraill o’r Teulu Brenhinol, llwyddwyd i ymweld â phob Teyrnas a holl wledydd y Gymanwlad ar ei rhan.

Roedd penwythnos y Jiwbilî Diemwnt yn cynnwys Cinio Jiwbilî Mawr, Cyngerdd ym Mhalas Buckingham, a Gwasanaeth Diolchgarwch yng Nghadeirlan Sant Paul, a diweddodd y dathliadau wrth i’r Frenhines fynegi Neges Jiwbilî Diemwnt arbennig i ddiolch am “y caredigrwydd dirifedi a ddangoswyd i mi yn y wlad hon ac ym mhob rhan o’r Gymanwlad”.

Dathlodd Y Frenhines a’i theulu sawl carreg filltir yn 2013: 60ain mlwyddiant ei Choroniad, pen-blwydd Tywysog Cymru yn 65, a phen-blwydd y Tywysog George o Gaergrawnt.

Cynhaliwyd gwasanaeth dathlu yn Abaty San Steffan ar achlysur 60ain mlwyddiant Coroni’r Frenhines, a chynhaliwyd Gŵyl y Coroni yng ngerddi Palas Buckingham. Fe wnaeth yr Ŵyl, a drefnwyd gan Gymdeithas Deiliaid y Warant Frenhinol, ddod ag arloesedd, rhagoriaeth a diwydiant gorau Prydain ynghyd trwy gyfrwng masnach a chrefft.

Heddiw, mae’r Frenhines yn dal i wneud ei dyletswyddau swyddogol, yn cynnwys cyfarfodydd â gweinidogion, Arwisgiadau, ymweliadau tramor a seremonïau fel Agoriad Swyddogol y Senedd.