Araith gan Dywysog Cymru ar y Cam Cyntaf, yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Llanarthne
Published
Foneddigion a Boneddigesau, mae’n dda iawn gen i allu galw heibio sir fy nghartref yng Nghymru ar y daith hon i ddathlu Gŵyl Cam Cyntaf Cymru.
Foneddigion a Boneddigesau, mae’n dda iawn gen i allu galw heibio sir fy nghartref yng Nghymru ar y daith hon i ddathlu Gŵyl Cam Cyntaf Cymru.
Hoffwn ddechrau drwy ddweud mor falch ydw i fel Noddwr o allu dod yn ôl heddiw i Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Efallai fod llawer ohonoch yn gwybod erbyn hyn fy mod i ar wythnos o daith o amgylch y wlad ar hyn o bryd, ar y Trên Brenhinol – sydd, gyda llaw, yn rhedeg ar fiodiesel sydd wedi’i wneud o hen olew coginio sy’n rhyfeddol o effeithlon yn ecolegol! – ac yn ceisio tynnu sylw at y project cyfan hwn. Go brin bod angen dweud fy mod i’n arbennig o ddiolchgar am gefnogaeth y Gerddi am gynnig cartref i’r Ŵyl Cam Cyntaf yng Nghymru gan fy mod i’n llwyr sylweddoli faint o waith paratoi a gafodd ei wneud mewn lleoliad mor ysbrydoledig sy’n byw a bod y syniadau sy’n sylfaen i’r Cam Cyntaf.
Wrth gwrs, mae’n braf cael dweud ein bod yn agos at fy nhŷ yng Nghymru ac rwy’n arbennig o falch fod sir fy nghartref, Sir Gaerfyrddin, yn arwain y ffordd drwy gynorthwyo ei chymunedau i gymryd y camau syml y mae angen eu cymryd i ddefnyddio adnoddau’r Ddaear mewn ffordd well. Rydw i wedi cwrdd â llawer o enghreifftiau disglair o gymunedau sy’n cymryd y camau cadarnhaol hyn a gobeithiaf y gall her gymunedol Sir Gâr, sy’n cael ei lansio heddiw, fod yn gatalydd i ymestyn y gwaith hwn. Rwy’n falch hefyd o allu lansio yma yng Nghymru'r llyfryn ‘The Green Guide for Historic Buildings’ sydd wedi cael ei gyhoeddi gan fy Ymddiriedolaeth Adfywio (The Prince’s Regeneration Trust). Fel y soniais yn fy rhagair i’r canllawiau, maen nhw’n enghraifft go iawn o feddwl yn gydgysylltiedig drwy uno stiwardiaeth treftadaeth y Deyrnas Unedig a’r angen i ddiogelu’r amgylchedd ac i gymryd camau i leihau effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Trwy afael yn nwylo’r darllenydd a’i dywys gam wrth gam drwy’r broses o gyflwyno addasiadau amgylcheddol i bob math o adeiladau hanesyddol a rhestredig, gobeithiaf y bydd y canllawiau hyn yn grymuso pobl i ddod o hyd i’r atebion cywir yn y tymor hir i’w hadeiladau treftadaeth o bwys eu hunain.
Fel Tywysog Cymru, mater o falchder i mi yw bod y Dywysogaeth yn arwain y ffordd mewn cymaint o’r agweddau ar ddatblygu cynaliadwy – yn wir, mae Cymru’n un o’r ychydig wledydd yn y byd lle mae dyletswydd gyfreithiol ar ei llywodraeth i hybu datblygu cynaliadwy ym mhopeth mae hi’n ei wneud. Gallwn ni wneud gwahaniaeth yn y materion byd-eang mawr drwy arwain y ffordd fel hyn, ac awgrymaf nad oes gwell ffordd o ddangos hynny na gweld y project Maint Cymru’n cael ei lansio heddiw, sef project sy’n anelu at ennyn cefnogaeth y genedl i sicrhau fforest law o Faint Cymru.
Gyda fy mhroject Fforestydd Glaw’n gweithredu fel rhan o’r ysbrydoliaeth ar gyfer y fenter hon, gallaf ond dymuno pob llwyddiant i broject Maint Cymru yn y gwaith o symbylu cenedl gyfan i helpu i gynnal darn o fforest drofannol sy’n gyfartal mewn maint iddi. Bydd sicrhau dwy filiwn o hectarau - neu, yn fwy defnyddiol, dwy filiwn o gaeau rygbi! - yn gyflawniad sylweddol ac, yn bwysicach na hynny, yn ffordd ardderchog o arwain cenhedloedd eraill i wneud yr un peth.
Mae project Maint Cymru’n cydnabod yr union syniad sy’n sylfaen i broject Cam Cyntaf - sef fod dynolryw mewn helynt go iawn. Mae ein gweithredoedd yn newid hinsawdd y Ddaear ac efallai ei bod hi’n rhy hwyr i atal y newid; rydyn ni’n defnyddio’r adnoddau naturiol sy’n ein cynnal ar gyflymdra nad oes modd iddo bara’n hir. Mewn geiriau syml, rydyn ni ar hyn o bryd yn achosi difrod mawr i’r systemau sy’n cynnal ein bywydau ni a bywydau’n plant, ac mae’r amser i wneud rhywbeth am y sefyllfa’n brysur rhedeg allan. Nid yw’r syniadau hyn yn rhai newydd i chi, rwy’n tybio. Fe gawsoch eich peledu o bob cyfeiriad am flynyddoedd â negeseuon llawn anobaith sy’n mynd yn fwy cras o hyd - gan wyddonwyr, gan wleidyddion, gan grwpiau amgylcheddol, gan wneuthurwyr ffilmiau a’r cyfryngau ac, ie, gennyf innau! A dyna’r broblem. Mae’r wybodaeth am yr hyn sydd o’i le’n mynd ymhell y tu hwnt i’r ymdrechion i unioni pethau. Ac eto, mae’r holl siarad am yr hyn y mae angen ei wneud yn tueddu i sôn am y pethau mae angen i ni eu stopio, eu cwtogi, eu torri neu eu hosgoi mewn rhyw ffordd.
Fy nheimlad i oedd bod yr holl siarad am ddyfodol amgylcheddol wedi bod, ers rhy hir o lawer, yn canolbwyntio ar atal pobl rhag gwneud yr hyn roedden nhw’n awyddus i’w wneud; sy’n atgyfnerthu stereoteip na fyddai dyfodol gwyrdd yn golygu fawr mwy na bywyd mewn sachliain a lludw. Anaml iawn wir oeddech chi’n clywed y storïau cadarnhaol sy’n deillio o’r broses o fabwysiadu arferion sy’n garedig i’r amgylchedd.
Neges y Cam Cyntaf yw annog a helpu pawb i gymryd y camau cyntaf tuag at y byd yr ydym oll yn awyddus i fyw ynddo. Byd glân ac iach sy’n defnyddio ynni’n effeithlon ac sy’n byw o fewn terfynau ei adnoddau naturiol; byd y gallwn ni deimlo’n falch ohono. Mae Cam Cyntaf yn neges syml a chadarnhaol. Nid yw’n pregethu nac yn arthio wrth unrhyw un am unrhyw beth, ac nid yw chwaith yn ceisio’u dychryn nhw; yn lle hynny, mae’n cydnabod waeth pa mor fawr yw’r her, y cam cyntaf yw’r un pwysicaf. Ac mae’n arwain drwy osod esiampl, drwy ddisgrifio’r hyn y mae pobl eraill yn ei wneud yn barod a’i gwneud hi’n syml ac yn naturiol fel ei gilydd i bobl eraill eu dilyn yn y cyfeiriad cywir. Nod Cam Cyntaf yw dangos i bobl y technolegau, y technegau a’r egwyddorion sy’n bodoli ar hyn o bryd, a fydd nid yn unig yn gwella’n bywydau, ond hefyd yn helpu’r blaned i’n cynnal ni - a’r cyfan drwy weithredu’n fwy cyson â phrosesau a chylchoedd Natur, yn hytrach na gweithredu yn eu herbyn. Drwy wneud y camau gweithredu’n rhai cadarnhaol a gofyn i bobl ddechrau gwneud pethau diddorol a difyr y maen nhw’n eu mwynhau - a chynnig iddyn nhw’r teimlad braf eu bod nhw’n gwneud gwahaniaeth - mae llawer mwy o aelodau’r cyhoedd yn fwy tebygol o weithredu. Drwy ddweud y gwir go iawn ynglŷn â photensial byw’n fwy cynaliadwy, gobeithiaf y gall Cam Cyntaf newid pethau’n sylweddol er mwyn gweld mwy a mwy o’r cyhoedd yn dewis ffordd o fyw sy’n llawer mwy cytbwys.
Os byddwn ni’n gwneud hyn yn iawn, byddwn ni’n gadael etifeddiaeth i genedlaethau’r dyfodol o amgylchedd sefydlog a gwell safon byw. Mae hon yn glamp o her ac mae ei chyflawni’n gallu edrych yn gwbl amhosib. Ond rwy’n hollol ffyddiog na fyddwn ni byth yn cyflawni’r hyn sydd angen ei gyflawni heb gymryd y CAM CYNTAF.
Dyw hi ddim yn rhy hwyr i gymryd y cam cyntaf – gadewch i ni wneud hynny gyda’n gilydd.
Related content
Remarks by The King at 'A King's Trust Celebration' at the Royal Albert Hall
You'll all make a huge difference to this country and many others.
A speech by His Majesty The King at the White House State Dinner, Washington
Tonight, we are here to renew an indispensable alliance which has long been a cornerstone of prosperity and security for both British and American citizens. Our people have...
The King's Commonwealth Day Message 2026
Working together, we can ensure that the Commonwealth continues to stand as a force for good – grounded in community, committed to the kind of restorative sustainability that...
A message from The King on the death of Reverend Jesse Jackson
My wife and I were deeply saddened to hear of the death of the Reverend Jesse Jackson. We send our deepest sympathy to his family. I remember with great fondness meeting him...
A message from The King ahead of a reception at Windsor Castle to celebrate carers
So to those who provide care - whether you wear a uniform or simply the clothes you felt able to pull on in the morning - please know that the great love you show in small...
A message from The King, following the attack at Tumbler Ridge Secondary School in British Columbia
My wife and I were profoundly shocked and saddened to learn of the most dreadful attack at Tumbler Ridge Secondary School in British Columbia. We can only express our deepest...
Announcement of a State Visit by the President of the Federal Republic of Nigeria
A speech by His Majesty The King at the Lord High Admiral’s Divisions Parade, Britannia Royal Naval College, Dartmouth
My own service taught me that leadership is not about rank; it is, and has always been, about character. It is about making sound decisions under pressure, holding firm to our...
A message from The King in support of Stand Up To Cancer
Throughout my own cancer journey, I have been profoundly moved by what I can only call the 'community of care' that surrounds every cancer patient - the specialists, the...
State Visit by The President of The Federal Republic of Germany and Ms. Büdenbender
03 December 2025
A message from The King to the people of South and Southeast Asia following devastating floods across the region.
My wife and I are deeply saddened to learn of the devastation caused by the terrible storms across South and Southeast Asia. We can only begin to imagine the scale of...
A message from The King to the people of Hong Kong following the devastating fire in Tai Po.
My wife and I were greatly saddened to learn of the devastating fire in Tai Po and feel deeply for the people of Hong Kong at such a tragic time. Our most heartfelt thoughts...
A message of condolence from His Majesty The King following the passing of Manfred Goldberg, Holocaust survivor and educator.
My wife and I were most deeply saddened to hear the news of Manfred Goldberg’s recent death and, together with everyone present, mourn his great loss in our hearts and souls...
A message from The King to the people of Jamaica and all those across the Caribbean affected by Hurricane Melissa
My wife and I have been deeply concerned and profoundly saddened to see the catastrophic damage caused by the ferocity of Hurricane Melissa in Jamaica and across the Caribbean...