YMWELIAD HAF BLYNYDDOL TYWYSOG CYMRU A DUGES CERNYW Â CHYMRU - Yn dathlu Cymru heddiw, ddoe a'r dyfodol

Published

DYDD LLUN MEHEFIN 30AIN DYDD GWENER GORFFENNAF 4YDD 2014

 

"Dathlu Cymru heddiw, ddoe a'r dyfodol" yw thema ymweliad haf blynyddol Tywysog Cymru a Duges Cernyw eleni. 

Rhyngddynt, bydd y Tywysog a'r Dduges yn agor Amgueddfa Treftadaeth Cwm Aber, yn ymweld a thref arobryn Brynbuga ac yn dathlu llwyddiant technoleg flaengar o Gymru.

Bob haf, y mae Eu Huchelderau Brenhinol yn treulio wythnos yn Llwynywermod, eu ffermdy Cymreig ger Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, ac yn ymweld â chyfres o wahanol ardaloedd yng Nghymru.

Bydd eu harhosiad yng Nghymru eleni yn cychwyn gydag ymweliadau â thri busnes teuluol Cymreig, sef cwmni bwyd Cnwd, ffatri Caws Cenarth a melin wlân Tregwynt, ill tri yn esiamplau eithriadol o fusnesau cynhyrchu sydd yn cynnig swyddi lleol.

Y mae Cwmni bwyd Cnwd, a leolir ger Cross Hands yn Sir Gaerfyrddin yn creu bwydydd o safon uchel. Sefydlwyd y cwmni gan y cyn-chef, Scott Davis, sydd yn ymfalchio mewn defnyddio cynnyrch o gefn glad ac arfordir cyfagos Sir Gâr.

Hefyd yn y sector fwyd, y mae ffatri Caws Cenarth yn chwarae rhan flaenllaw yn nadeni'r grefft o greu caws Cymreig. Y mae caws arobryn y ffatri hon i gyd yn cael ei wneud â llaw, ac yn cael ei wwasgu mewn gweisg haearn-bwrw sydd bellach dros ganrif oed.

Melin wlân draddodiadol yw Melin Tregwynt yn Sir Benfro. Y mae wrthi'n addasu ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain ac yn cyflogi rhyw 30 o bobl leol mewn gwaith cynhyrchu tecstiliau.  Ar ôl gweld y felin a chwrdd â rhai prentisiau, bydd y Tywysog yn mynychu digwyddiad i ddathlu twf y diwydiant treftadaeth a thecstiliau yng Nghymru, a drefnir gan Creative Skillset Cymru. 

Dathlu hanes cyfoethog Cymru fydd y Tywysog a'r Dduges wrth ymweld â Llanilltud Fawr ym Mro Morgannwg, lle bydd cyfle iddynt weld drostynt eu hunain y Capel Galilea sydd newydd ei adfer ac sydd yn gartref i un o'r casgliadau pwysicaf o gerrig Celtaidd Cristnogol yn y Deyrnas Unedig.  Wrth ymweld â gogoniannau Edwardaidd Ty a Gerddi Dyffryn, nepell i ffwrdd, bydd Ei Uchelder Brenhinol hefyd yn dathlu chwarter canrif Ymddiriedolaeth Gerddi Hanesyddol Cymru, cymdeithas y mae ef yn Noddwr arni. Bydd wedyn yn teithio ymlaen i ffatri Sony ym Mhencoed, sydd wedi darparu cyflogaeth yn gyson i'r ardal am 40 mlynedd.  Fe'i sefydlwyd wedi awgrym gan y Tywysog y dylai'r cwmni fuddsoddi yng Nghymru. Bellach mae'r ffatri unwaith eto'n flaengar iawn yn dechnolegol, ac yn cynhyrchu'r cyfrifiadur dyfeisgar maint-cerdyn 'Raspberry Pi'.

Yn y cyfamser, bydd Duges Cernyw yn ymweld â Chofeb Ryfel Genedlaethol Cymru ym Mharc Cathays, Caerdydd, fel rhan o ymgyrch elusen In Memoriam 2014, sydd yn marcio gyda 'SmartWater' gofebau rhyfel sydd mewn peryg o gael eu dwyn neu eu difrodi, cyn iddi ymgymryd â'i hymweliad cyntaf fel Noddwr Arthritis Research UK, yng Nghanolfan Biofecanyddol a Biobeirianneg Ysbyty Prifysgol, Caerdydd. Bydd Eu Huchelderau Brenhinol wedyn yn cynnal derbyniad yn Llwynywermod i nodi canmlwyddiant geni Dylan Thomas. Y mae'r Tywysog yn Noddwr Brenhinol ar Wyl Dylan Thomas 100. 

Talu teyrnged i orffennol glofaol Cymru fydd y Tywysog a'r Dduges wrth iddynt ymweld â Senghenydd lle byddant yn mynychu seremoni fer ac yn gosod torch wrth droed Cofeb Lofaol Genedlaethol Cymru, cyn agor Canolfan Dreftadaeth Cwm Aber. Y mae gan yr amgueddfa arddangosfeyrdd yn ymwneud â nifer o drychinebau glo, ynghyd â deunydd sydd yn dogfennu hanes ehangach Cymoedd y De.  

Bydd tref arobryn Brynbuga yn croesawu Duges Cernyw wrth iddi ymweld â nifer o leoliadau sydd yn cymryd rhan yng nghystadleuaeth "Prydain yn ei Blodau 2014". Y mae'r gystadleuaeth, sydd yn dathlu ei hanner canmlwyddiant, ac sydd yn cael ei rhedeg gan y Gymdeithas Arddwriaethol Frenhinol, wedi enwebu Brynbuga fel un o'r trefi yn rownd olaf y categori 'pentref mawr'. Bydd Ei Huchelder Brenhinol yn cwrdd â phlant ysgolion lleol, perchnogion busnesau ac aelodau o'r gymuned. 

Fel Noddwr y Landmark Trust, bydd Tywysog Cymru yn ymweld â Llwyn Celyn, yng Nghrucornau Fawr, Sir Fynwy, sydd yn esiampl brin iawn o dy fferm o'r 15fed Ganrif hwyr. Fe ddaeth i ofal yr ymddiriedolaeth yn ddiweddar, ac mae wedi ei chategoreiddio fel adeilad Graddfa Un.

Yng Nghrughywel ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, bydd Tywysog Cymru yn cwrdd â John a Margaret Thomas, sydd yn cynhyrchu nifer o fathau o sudd afal ffermdy Cymreig organig.  Bydd Tywysog Cymru yn gorffen yr ymweliad haf eleni yn Aberhonddu lle bydd yn gweld addurniadau mewnol ysblennydd Capel y Plough, a gafodd eu hadfer yn ddiweddar.

Meddai llefarydd ar ran Clarence House: "Y mae'r Tywysog a'r Dduges yn edrych ymlaen at wythnos brysur yn dathlu treftadaeth unigryw Cymru, gan gynnwys Gristnogaeth Geltaidd a gwaith Dylan Thomas. Y mae Eu Huchelderau Brenhinol hefyd yn awyddus i dynnu sylw at lwyddiannau'r Gymru fodern, fel gwaith cynhyrchu'r Raspberry Pi yn Sony ym Mhencoed a'r bwydydd amheuthun a wneir gan gynhyrchwyr crefftus led led y wlad."      

Related content

Remarks by The King at 'A King's Trust Celebration' at the Royal Albert Hall

You'll all make a huge difference to this country and many others.

18 May 2026
News

The King visits Bermuda

01 May 2026
The King in Bermuda

A speech by His Majesty The King at the White House State Dinner, Washington

Tonight, we are here to renew an indispensable alliance which has long been a cornerstone of prosperity and security for both British and American citizens. Our people have...

29 April 2026

The King’s Address to the Joint Meeting of Congress in Washington

The Alliance that our two Nations have built over the centuries – and for which we are profoundly grateful to the American people – is truly unique.

28 April 2026

The King’s message to commemorate the 100th anniversary of the birth of Queen Elizabeth II

Queen Elizabeth’s ‘promise with destiny kept’ shaped the world around her and touched the lives of countless people across our nation, the Commonwealth and beyond.

20 April 2026

The King's letter to Colonel Jeremy Hansen ahead of the launch of the Artemis II mission

It is with immense pride and a profound sense of shared purpose that I write to you as you prepare to embark upon the Artemis II mission.

31 March 2026

A Speech by The Queen at a Literary Reception to mark the fifth anniversary of Her Majesty's Reading Room

I find it hard to believe that it is five years since I founded it, at the height of lockdown, with the simple aim of sharing my lifelong conviction that books make life...

25 March 2026
News

Royal Maundy 2026

02 April 2026
Royal Maundy 2026

The King's speech at the Nigeria State Banquet

We in the United Kingdom are blessed that so many people of Nigerian heritage, having chosen Britain as their home, are now at the heart of British life through excelling at...

18 March 2026

The Queen's speech at a WOW reception to mark International Women's Day

Every woman has a story. And these stories must be told. Because when we live in a culture of silence, we empower violence against women and girls.

10 March 2026
News

Commonwealth Day 2026

12 March 2026
Members of The Royal Family attend The Queen Elizabeth Prizes for Education

The King's Commonwealth Day Message 2026

Working together, we can ensure that the Commonwealth continues to stand as a force for good – grounded in community, committed to the kind of restorative sustainability that...

08 March 2026
Page

Royal Household Gift Policy 2026

This Gift Policy seeks to provide a framework for the management of gifts by The Royal Household, on behalf of The Sovereign and other Members of The Royal Family.

Press release 03 March 2026

The King's Medal for Music 2024 & 2025

Read more

A message from His Majesty The King congratulating Team GB and teams across the Commonwealth on their successes at the Winter Olympic Games in Milano Cortina.

As the Winter Games come to a close, my wife and I send our most heartfelt congratulations to all the Olympic medal winners from Team GB, Canada, Australia and New Zealand, on...

22 February 2026
Press release 19 February 2026

A Statement from His Majesty The King

Read more
Press release 14 February 2026

The King’s Gold Medal for Poetry 2025

Read more

A message from The King on the death of Reverend Jesse Jackson

My wife and I were deeply saddened to hear of the death of the Reverend Jesse Jackson. We send our deepest sympathy to his family. I remember with great fondness meeting him...

18 February 2026

A message from The King ahead of a reception at Windsor Castle to celebrate carers

So to those who provide care - whether you wear a uniform or simply the clothes you felt able to pull on in the morning - please know that the great love you show in small...

12 February 2026

A message from The King, following the attack at Tumbler Ridge Secondary School in British Columbia

My wife and I were profoundly shocked and saddened to learn of the most dreadful attack at Tumbler Ridge Secondary School in British Columbia. We can only express our deepest...

11 February 2026