TYWYSOG CYMRU A DUGES CERNYW A'U HYMWELIAD HAF CYMREIG

Published

Bydd Tywysog Cymru a Duges Cernyw yn treulio wythnos ym mis Gorffennaf yn dathlu mentrau a chymunedau Cymru. Bydd Eu Huchelderau Brenhinol yn ymweld â nifer o fusnesau, gan gynnwys cwmni teuluol y Village Bakery yn Wrecsam, lle byddant yn agor Academi Pobi newydd; byddant hefyd yn ymweld â Fferm Maesllwyni ger Penegoes ger Machynlleth, sy'n cynhyrchu cig oen organig; ymwelir hefyd â'r dylunwyr ffasiwn Charles a Patricia Lester yn Y Fenni a chwmni amddiffyn ac awyrofod General Dynamics UK Limited, ger Caerffili. Bydd y Dduges, sy'n Llywydd Cymdeithas Gwinllannoedd y Deyrnas Unedig, yn agor Gwindy newydd Ancre Hill yn Nhrefynwy.

Bydd y cwpl Brenhinol yn ymweld â phentrefi a threfi led led Cymru, gan gwrdd â phobl leol a rhannu ysbryd eu cymunedau. Er enghraifft, yn Llanarmon-yn-lâl ac yn ardal Llandysul byddant yn clywed sut y gweithiodd trigolion lleol gyda'u gilydd i achub eu tafarnau lleol, gyda chymorth menter Pub is the Hub, a sefydlwyd gan y Tywysog. Ymhlith uchafbwyntiau eraill yr wythnos bydd Tywysog Cymru yn ymweld â stadiwm SWALEC i gwrdd â chwaraewyr Lloegr ac Awstralia wrth iddyn nhw baratoi ar gyfer cyfres gemau prawf y Lludw, a bydd Eu Huchelderau Brenhinol yn ymweld ag Eisteddfod Gydwladol Llangollen, y mae Ei Uchelder Brenhinol yn Noddwr arni.

Bob haf, bydd Eu Huchelderau Brenhinol yn treulio wythnos yn Llwynywermod, eu ty fferm Cymreig ger Llanymddyfri yn Sir Gaerfyrddin, gan ymweld â gwahanol rannau o Gymru.  Y mae'r Tywysog a'r Dduges hefyd yn cynnal digwyddiadau yn Llwynywermod; eleni, bydd y digwyddiadu yno yn cynnwys noson o gerddoriaeth dan ofal Coleg Cerdd a Drama Cymru. Bydd Ei Huchelder Brenhinol yn cynnal parti te ar gyfer plant hosbis Ty Hafan, gan gynnwys adloniant gan Opera Ieuenctid Caerfyrddin. Y mae'r Tywysog yn Noddwr ar hosbis Ty Hafan ac mae'r Dduges yn Noddwr ar y cwmni opera.  Bydd y cwpl hefyd yn ymweld â'r ardal leol –  gyda Ei Uchelder Brenhinol yn dadorchuddio peiriant Pelydr-X ac yn cyfarfod â staff a chleifion yn Ysbyty Llanymddyfri tra bydd Ei Huchelder Brenhinol yn mynychu Gwyl Flodau gyntaf pentref Rhandir-mwyn ac yn cyfarfod â rhai o'r grwpiau cymunedol sydd yn defnyddio YMCA Llanymddyfri.

Bydd y Tywysog hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau er budd ei elusennau. Yn ystod ei ymweliad â Stadiwm SWALEC, bydd Ei Uchelder Brenhinol yn treulio amser gyda phobl ifanc sydd yn cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddi lletygarwch dan ofal Ymddiriedolaeth y Tywysog; bydd hefyd yn ymweld â 'Too Good To Waste', sef canolfan a menter gymunedol a sefydlwyd gan yr Ymddiriedolaeth ac sydd yn hybu ailgylchu ac ailddefnyddio. Yng Ngharchar y Parc ger Pen-y-bont ar Ogwr, bydd yn cwrdd â throseddwyr ifanc sydd yn cymryd rhan mewn rhaglen hyfforddiant peldroed dan ofal yr Ymddiriedolaeth. Ym mhlasty hanesyddol Nanteos ger Aberystwyth, bydd y Tywysog yn mynychu digwyddiadau er budd Menter Mynyddoedd y Cambrian, sydd yn ceisio helpu ffermwyr yr ardal, a'i elusen PRIME Cymru, sy'n darparu cymorth ymarferol i bobl 50 a throsodd sydd yn dymuno aros yn weithgar yn economaidd.

Dywedodd llefarydd ar ran Clarence House: 'Y mae'r Tywysog a'r Dduges bob amser ym mwynhau eu hymweliad haf blynyddol â Chymru. Maen nhw'n edrych ymlaen yn fawr at ymwneud â chymunedau mewn rhannau gwahanol o'r wlad, a gweld mentergarwch Cymru yn ei holl amrywiaeth eang.'    

Nodiadau ar gyfer Golygyddion

Related content

Remarks by The King at 'A King's Trust Celebration' at the Royal Albert Hall

You'll all make a huge difference to this country and many others.

18 May 2026
News

The King visits Bermuda

01 May 2026
The King in Bermuda

A speech by His Majesty The King at the White House State Dinner, Washington

Tonight, we are here to renew an indispensable alliance which has long been a cornerstone of prosperity and security for both British and American citizens. Our people have...

29 April 2026

The King’s Address to the Joint Meeting of Congress in Washington

The Alliance that our two Nations have built over the centuries – and for which we are profoundly grateful to the American people – is truly unique.

28 April 2026

The King’s message to commemorate the 100th anniversary of the birth of Queen Elizabeth II

Queen Elizabeth’s ‘promise with destiny kept’ shaped the world around her and touched the lives of countless people across our nation, the Commonwealth and beyond.

20 April 2026

The King's letter to Colonel Jeremy Hansen ahead of the launch of the Artemis II mission

It is with immense pride and a profound sense of shared purpose that I write to you as you prepare to embark upon the Artemis II mission.

31 March 2026

A Speech by The Queen at a Literary Reception to mark the fifth anniversary of Her Majesty's Reading Room

I find it hard to believe that it is five years since I founded it, at the height of lockdown, with the simple aim of sharing my lifelong conviction that books make life...

25 March 2026
News

Royal Maundy 2026

02 April 2026
Royal Maundy 2026

The King's speech at the Nigeria State Banquet

We in the United Kingdom are blessed that so many people of Nigerian heritage, having chosen Britain as their home, are now at the heart of British life through excelling at...

18 March 2026

The Queen's speech at a WOW reception to mark International Women's Day

Every woman has a story. And these stories must be told. Because when we live in a culture of silence, we empower violence against women and girls.

10 March 2026
News

Commonwealth Day 2026

12 March 2026
Members of The Royal Family attend The Queen Elizabeth Prizes for Education

The King's Commonwealth Day Message 2026

Working together, we can ensure that the Commonwealth continues to stand as a force for good – grounded in community, committed to the kind of restorative sustainability that...

08 March 2026
Page

Royal Household Gift Policy 2026

This Gift Policy seeks to provide a framework for the management of gifts by The Royal Household, on behalf of The Sovereign and other Members of The Royal Family.

Press release 03 March 2026

The King's Medal for Music 2024 & 2025

Read more

A message from His Majesty The King congratulating Team GB and teams across the Commonwealth on their successes at the Winter Olympic Games in Milano Cortina.

As the Winter Games come to a close, my wife and I send our most heartfelt congratulations to all the Olympic medal winners from Team GB, Canada, Australia and New Zealand, on...

22 February 2026
Press release 19 February 2026

A Statement from His Majesty The King

Read more
Press release 14 February 2026

The King’s Gold Medal for Poetry 2025

Read more

A message from The King on the death of Reverend Jesse Jackson

My wife and I were deeply saddened to hear of the death of the Reverend Jesse Jackson. We send our deepest sympathy to his family. I remember with great fondness meeting him...

18 February 2026

A message from The King ahead of a reception at Windsor Castle to celebrate carers

So to those who provide care - whether you wear a uniform or simply the clothes you felt able to pull on in the morning - please know that the great love you show in small...

12 February 2026

A message from The King, following the attack at Tumbler Ridge Secondary School in British Columbia

My wife and I were profoundly shocked and saddened to learn of the most dreadful attack at Tumbler Ridge Secondary School in British Columbia. We can only express our deepest...

11 February 2026